Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru Drafft
2017 Rhif (Cy. )
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Parhawyd â
bodolaeth Cyngor y Gweithlu Addysg
(“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru)
2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi
prif swyddogaethau’r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn
caniatáu i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn sy’n rhoi
swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor neu’n gosod
swyddogaethau ychwanegol arno.
Rhoddodd Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 (“Gorchymyn 2017”) swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor sy’n ymwneud ag achredu cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ac â thynnu achrediad yn ôl (“Swyddogaeth Achredu”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2017 er mwyn rhoi swyddogaeth bellach i’r Cyngor sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo roi sylw i ragolwg Gweinidogion Cymru o’r galw am athrawon newydd gymhwyso pan fydd yn arfer ei Swyddogaeth Achredu (erthygl 2).
Ystyriwyd Cod
Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol
mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad,
ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith
rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n
debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn
hwn.
Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, i’w
gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru Drafft
2017 Rhif (Cy. )
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 2017
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 5 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014([1]), ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y
Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon)
(Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd 2017.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2. Yn erthygl 3 o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017([2]), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
(3) Wrth arfer y swyddogaethau ym mharagraff (1), mae’r Cyngor i roi sylw i unrhyw ragolwg o’r galw am athrawon newydd gymhwyso yr hysbysir y Cyngor amdano yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
[ ] 2017